Mynd i'r cynnwys

Plant a Phobol Ifanc

Rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau, prosiectau a gweithgareddau ymarferol a hwyliog.

Hirddydd Haf

Mewn cydweithrediad gyda’r Adran Addysg, mae Gŵyl Hirddydd Haf yn ddigwyddiad i ddisgyblion Blwyddyn 5 Ysgolion Cyfrwng Cymraeg y Sir. Diwrnod llawn dop o gerddoriaeth, creadigrwydd a hwyl yng Nghanolfan yr Urdd, Pentre Ifan. Yng Ngŵyl 2025, cafodd y plant eu diddanu gan berfformiad bywiog Mei Gwynedd a’r band Dewin, yn ogystal â bod yn rhan o’r ail-recordiad o'r gân leol ‘Hela’r Twrch Trwyth’. Roedd hefyd amrywiaeth o weithdai ysbrydoledig drwy’r dydd, gan greu gŵyl fywiog a chofiadwy sy’n dathlu’r Gymraeg mewn awyrgylch creadigol i ysgolion y sir.

Olympiaith

Mewn partneriaeth ag Adran Addysg Cyngor Sir Benfro, fe wnaethom gynnal gŵyl hwyliog a chystadleuol sy’n dod ag ysgolion o bob rhan o’r sir at ei gilydd i ddathlu’r Gymraeg trwy gemau, heriau a gweithgareddau dysgu ysgafn. Bwriad Olympiaith yw meithrin cariad at y Gymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar, cefnogol ac ysbrydoledig, gan roi cyfle i blant Blwyddyn 4 y sir fwynhau’r iaith mewn ffordd naturiol, gadarnhaol a llawn hwyl.

Disgo Distaw

Rydym hefyd yn falch o’n defnydd parhaus o'n hoffer ar gyfer Disgo Distaw, sy’n rhan boblogaidd iawn o’n cynnig i ysgolion a grwpiau cymunedol. Rydym yn cynnal sesiynau gyda’r deunydd hwn yn aml, ac mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig ffordd hwyliog a hygyrch o gyflwyno caneuon Cymraeg i blant ac oedolion ar draws y sir. Drwy gyfuno cerddoriaeth, symudiad a dysgu anffurfiol hwyliog, mae Disgos Distaw yn creu profiad bywiog sy’n meithrin hyder ieithyddol ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â’r Gymraeg mewn modd cadarnhaol a naturiol.

Prosiect Glas Ysgolion Cynradd

A fuodd erioed enw mor gyfoethog â glas/gleision? Yn syml, gall gyfeirio at liw wyneb y môr neu’r awyr ar ddiwrnod clir, digwmwl. Ond beth am berci a cherrig gleision Sir Benfro? Ydyn nhw’n edrych yn las i chi? Er mai’r un yw’r enw, mae’r ystyr yn dra gwahanol. Trwy gyfrwng y prosiect hwn, daw cyfle i archwilio ehangder y gair ‘glas’, a hynny drwy ystod o weithgareddau a fydd yn siŵr o sbarduno creadigedd, dathlu treftadaeth, a rhoi blas ar gyfoeth yr iaith. Felly, awn ar antur las i fro lle mae’r iaith yn llawn hud a’r cynefin yn swyno. Bydd y prosiect Glas gan Llinos Mair, yn cefnogi gwaith Menter Iaith Sir Benfro ac yn dathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las i’r fro, yn 2026.

Prosiect Creu Sŵn

Mewn cydweithrediad ag ysgolion uwchradd lleol a Choleg Sir Benfro mae prosiect Creu Sŵn, menter greadigol yn dod â phobl ifanc ynghyd i archwilio cerddoriaeth a mynegiant creadigol drwy’r Gymraeg. Dan arweiniad yr artist Mei Gwynedd, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ysbrydoledig i gyd-ysgrifennu, datblygu a pherfformio cân wreiddiol newydd, gan feithrin hyder a sgiliau creadigol. Daw’r prosiect i’w benllanw ar Ddydd Miwsig Cymru gyda chystadleuaeth Brwydr y Bandiau arbennig fel rhan o Noson Goffa Ail Symudiad, gan roi llwyfan i dalent ifanc Sir Benfro ddisgleirio.
Cwis Dim Clem

Cwis Dim Clem

Prosiect Cenedlaethol yw Cwis Dim Clem. Cwis rhithiol llawn gwybodaeth a llawn hwyl ar gyfer Blwyddyn 6 ysgolion Cymraeg Cymru. Mae’r Fenter yn cynnal rowndiau lleol Sir Benfro gyda'r ysgol ar y brig yn mynd ymlaen i herio ysgolion eraill o fewn rhanbarth y gorllewin Mentrau Iaith Cymru. Mae 'na Ffeinal Cenedlaethol yn digwydd hefyd gyda 6 ysgol ar draws Cymru yn brwydro i fod yn bencampwyr Cwis Dim Clem Cymru.