Ein Gwaith
Hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a dwyieithrwydd yng nghymunedau Sir Benfro
Gwaith Craidd
Gwaith Craidd Menter Iaith Sir Benfro yw gweithio’n uniongyrchol gyda’r bobl sy’n gwneud gwahaniaeth i ddyfodol y Gymraeg ar draws y sir. Trwy gynnal gweithgareddau a chyfleoedd amrywiol gyda theuluoedd, plant, pobl ifanc, ysgolion a chymunedau, rydym yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan fyw o fywyd bob dydd.
Browlan
Sefydlwyd y dudalen ar y cyd rhwng Menter Iaith Sir Benfro a Cered ar ddechrau’r pandemig, o dan yr enw ‘Cica Corona’. Yn ddiweddarach, newidiwyd yr enw i ‘Browlan’, ac mae’r cynnwys yn parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw.
Gŵyl Fel 'Na Mai
Cychwynodd yr ŵyl yn 2022, ac rydym ni’n falch o fod yn bartner allweddol i’r ŵyl bwysig hon.
Pethau Penfro
E-gylchlythyr wythnosol y Fenter sy’n cynnwys manylion ein digwyddiadau ni, yn ogystal â gweithgareddau a chyfleoedd eraill ledled y sir.