Mynd i'r cynnwys

Polisïau

Cyflwyniad
Mae Menter Iaith Sir Benfro (MISB) yn ceisio rhoi eu cynulleidfa yn gyntaf, gan wella ansawdd ein gofal cwsmer a’r cynnig i’n defnyddwyr.
Rydym yn croesawu unrhyw farn am ein gwaith, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, a byddwn yn ymdrin â chwynion yn deg yn dilyn y broses isod.

Cwynion
Mae MISB wedi ymrwymo i ddelio’n effeithiol gydag unrhyw bryderon neu gwynion gan ein cynulleidfa. Os oes unrhyw bryder neu gŵyn yn cael ei godi, byddwn yn ymateb fel yr isod.

Noder bydd cwynion mewnol gan aelodau o staff MISB yn dilyn y broses a nodir yn y llawlyfr staff.

Er mwyn gwneud cwyn bydd angen anfon llythyr swyddogol un ai ar e-bost at: [email protected]
neu ei bostio at: Y Prif Swyddog, Menter Iaith Sir Benfro, Ysgol Bro Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH.

Y Drefn Gwynion

  1. Unwaith bydd llythyr gwyno (e-bost neu bost) gan yr ‘unigolyn’ (y person a wnaeth y gwyn neu gynrychiolaeth o’r mudiad sydd wedi gwneud y gwyn) yn cael ei dderbyn byddwn yn anfon llythyr (e-bost neu bost) at yr unigolyn yn cydnabod ein bod wedi derbyn y gwyn a nodi’n  dull gweithredu. Bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn 3 diwrnod gwaith o dderbyn y cwyn.
  2. Byddwn yn ymchwilio i’r gwyn. Bydd hyn fel arfer yn golygu trosglwyddo’r gwyn i’r Bwrdd Rheoli a fydd yn delio gyda’r mater.
  3. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Rheoli yn gwahodd yr unigolyn i drafod a cheisio datrys y mater. Bydd hyn yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod gwaith o anfon y llythyr cydnabod.
  4. Bydd llythyr yn cadarnhau’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod yn cael ei anfon at yr unigolyn o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cyfarfod.
  5. Os nad ydy’r unigolyn am gyfarfod, neu os nad yw’n bosib, bydd ymateb ysgrifenedig manwl yn cael ei anfon at yr unigolyn yn ymateb i’r gwyn gan gynnig datrysiadau o fewn21 diwrnod gwaith o anfon y llythyr cydnabod.
  6. Os nad yw’r unigolyn yn fodlon gyda’r datrysiadau a gynigwyd dylai’r unigolyn gysylltu unwaith eto er mwyn trefnu cyfarfod gyda rhywun o fewn y cwmni nad sy’n gysylltiedig â’r mater i adolygu’r penderfyniad.
  7. Bydd llythyr yn nodi penderfyniad terfynol y cwmni yn ymwneud â’r gwyn ac yn nodi rhesymau yn cael ei anfon at yr unigolyn o fewn 14 diwrnod o dderbyn cais yr unigolyn am adolygiad.


Adolygwyd – Ionawr 2026