Mynd i'r cynnwys

Gwirfoddoli

Gwnewch wahaniaeth o fewn y gymuned

Mae gwirfoddoli yn ffordd werthfawr o gefnogi’r gymuned, magu hyder a datblygu sgiliau newydd, wrth wneud gwahaniaeth go iawn. Rydym o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Trwy wirfoddoli, cewch chi gyfle i fod yn rhan o weithgareddau hwyliog, cyfarfod pobl newydd a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn naturiol yn eich cymuned, beth bynnag eich lefel iaith.

Ar y dudalen hon, byddwch hefyd yn cael darllen darnau byr gan ein gwirfoddolwyr, sy’n rhannu eu profiadau personol o wirfoddoli gyda ni a’r effaith gadarnhaol mae wedi’i chael arnynt.

Dyma sylwadau byr gan ein gwirfoddolwyr, sy’n rhannu eu profiadau personol o wirfoddoli gyda ni a’r effaith gadarnhaol mae wedi’i chael arnynt.

"Trwy wirfoddoli gyda’r Fenter dwi wedi gwella ar fy sgiliau cyfathrebu nid yn unig trwy fy mamiaith ond hefyd trwy’r Saesneg ar adegau. Mae cael y cyfle i gyd-weithio gyda staff a gwirfoddolwyr eraill er mwyn cyflawni’r un nod cyffredin wedi bod yn werthfawr tu hwnt i fy mharatoi i ar gyfer y gweithle proffesiynol."
Gwirfoddolwr - Manon
Manon John
"Mae gwirfoddoli i’r Fenter wedi rhoi nifer o brofiadau i mi, sialensau i drefnu digwyddiadau llwyddiannus gydag adnoddau a thÎm bach, cyfleoedd i gymdeithasu, a’r cyfle i weithio trwy ac i siarad a chynnal y Gymraeg"
Myfanwy
Myfanwy Lewis
"Ers dechreuais i ddysgu Cymraeg, dw’i wedi derbyn cefnogaeth rhagorol gan staff Menter Iaith. Mae gwirfoddoli gyda nhw wedi rhoi profiadau gwerthfawr i fi ac i ddeall mwy o ddiwylliant Cymru. Dw’i wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cerddorol a gorymdeithiau, a dw i’n credu bod Menter Iaith yn chwarae rôl ganolog yn nyfodol yr iaith Gymraeg. Mae gwirfoddoli gyda Menter Iaith yn anrhydedd, a dw i’n annog pob dysgwr i gymryd rhan."
Kevin
Kevin Davies

Cysylltu

I gysylltu trwy e-bost cysylltwch â [email protected]