Sefydlwyd Menter Iaith Sir Benfro ar 22ain o Hydref 1998, yn sgil trafodaethau a ddechreuodd ar ôl ymweliad Eisteddfod yr Urdd â Bro’r Preseli ym 1995.
Erbyn heddiw mae gennym ddwy swyddfa. Mae’r brif swyddfa wedi’i lleoli ar gampws Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, a’r llall yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol Abergwaun. Er hynny, rydym yn weithgar ar hyd a lled y sir, gan weithio’n rheolaidd o fewn cymunedau lleol ac, yn ôl natur y gwaith, o adref hefyd.