Coffi a Chlonc
Pob mis, rydym yn cynnal sesiynau Coffi a Chlonc mewn sawl lleoliad ar draws y sir, gan gynnwys Arberth, Llandudoch, Abergwaun a Doc Penfro ac un ar lein. Mae’r sesiynau hyn wedi dod yn achlysur poblogaidd iawn, gyda llawer o bobl leol yn dod ynghyd i fwynhau paned, sgwrs a chwmni da.
Mae’r boreau coffi’n agored i bawb, siaradwyr rhug a dysgwyr sy’n dymuno defnyddio neu ddysgu mwy o’r iaith mewn awyrgylch gyfeillgar a hamddenol.
Os hoffech chi ymuno â’n sesiynau i gael paned a sgwrs neu i gwrdd â phobl newydd, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.



























