Mynd i'r cynnwys

Teuluoedd

Creu cyfleoedd i deuluoedd ddefnyddio’r Gymraeg

Mae Menter Iaith Sir Benfro yn falch o gydweithio’n agos gyda sefydliadau allweddol fel Cymraeg i Blant a Mudiad Meithrin, gan rannu’r un nod o hyrwyddo addysg a chwarae trwy’r Gymraeg. Trwy’r bartneriaeth hon, rydym yn gallu cynnig ystod eang o weithgareddau a phrofiadau i deuluoedd ledled y sir, gan gryfhau’r cyfleoedd i rieni a phlant fwynhau a defnyddio’r Gymraeg.

Rydym wedi bod yn lwcus dros y blynyddoedd i gydweithio ag amryw o bobl dalentog megis Siani Sionc a Lowri Sion, sy’n creu a chyflwyno sesiynau hwyliog a chreadigol i blant ifanc ac yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog i’r teulu cyfan. Drwy gydol ein gwaith rydym yn rhoi cyfleoedd i deuluoedd gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a dod i adnabod y sefydliadau a’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt, gan roi cefnogaeth i deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn iaith y cartref, gan sicrhau bod pawb yn teimlo’n groesawgar ac yn hyderus i gymryd rhan waeth beth fo lefel eu Cymraeg.

Dathlu Dewi

Mae Dathlu Dewi yn ddigwyddiad dydd Gŵyl Dewi i deuluoedd gyda phlant a babanod ifanc, sy’n rhoi’r cyfle i brofi balchder yn yr iaith Gymraeg drwy sesiynau stori, canu a chrefft.

Amser Stori

Mae amser stori sy’n digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnig cyfleoedd i rieni a phlant fwynhau straeon, canu a chwarae mewn awyrgylch cyfeillgar a chynhwysol.

Stori a Siôn Corn

Gweithgaredd Nadoligaidd i deuluoedd yw Stori a Siôn Corn, lle rydym yn dathlu tymor y gwyliau mewn awyrgylch hwylus a chroesawgar. Mae’r sesiynau’n cynnwys darlleniad o storïau Nadoligaidd, canu, yn ogystal ag ymweliad gan Siôn Corn! Mae’n ffordd wych i ddod at eich gilydd fel teulu, mwynhau’r Gymraeg a pharatoi ar gyfer yr ŵyl.

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am unrhyw gydweithrediadau sydd i ddod, digwyddiadau newydd a sesiynau hwyliog i’r teulu cyfan.