Nosweithiau Cymdeithasol
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol i ddod â phobl ynghyd drwy’r Gymraeg. Mae ein gweithgareddau’n cynnwys nosweithiau hamddenol yng nghwmni pobl adnabyddus o fyd diwylliant a cherddoriaeth, gan greu cyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau mewn awyrgylch groesawgar. Yn aml, rydym yn cydweithio â Gwerin Fel ‘Na Mai, grŵp poblogaidd ac adnabyddus yn yr ardal, i gyflwyno digwyddiadau sy’n dathlu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Trwy’r gweithgareddau hyn, rydym yn cryfhau’r ymdeimlad o gymuned ac yn annog defnydd naturiol o’r Gymraeg.
























