{"version":"1.0","provider_name":"Menter Iaith Sir Benfro","provider_url":"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en","title":"Plant a Phobol Ifanc - Menter Iaith Sir Benfro","type":"rich","width":600,"height":338,"html":"<blockquote class=\"wp-embedded-content\" data-secret=\"7fmqw4l4KG\"><a href=\"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en\/eingwaith\/plant\/\">Children and Young People<\/a><\/blockquote><iframe sandbox=\"allow-scripts\" security=\"restricted\" src=\"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en\/eingwaith\/plant\/embed\/#?secret=7fmqw4l4KG\" width=\"600\" height=\"338\" title=\"&#8220;Plant a Phobol Ifanc&#8221; &#8212; Menter Iaith Sir Benfro\" data-secret=\"7fmqw4l4KG\" frameborder=\"0\" marginwidth=\"0\" marginheight=\"0\" scrolling=\"no\" class=\"wp-embedded-content\"><\/iframe><script>\n\/*! This file is auto-generated *\/\n!function(d,l){\"use strict\";l.querySelector&&d.addEventListener&&\"undefined\"!=typeof URL&&(d.wp=d.wp||{},d.wp.receiveEmbedMessage||(d.wp.receiveEmbedMessage=function(e){var t=e.data;if((t||t.secret||t.message||t.value)&&!\/[^a-zA-Z0-9]\/.test(t.secret)){for(var s,r,n,a=l.querySelectorAll('iframe[data-secret=\"'+t.secret+'\"]'),o=l.querySelectorAll('blockquote[data-secret=\"'+t.secret+'\"]'),c=new RegExp(\"^https?:$\",\"i\"),i=0;i<o.length;i++)o[i].style.display=\"none\";for(i=0;i<a.length;i++)s=a[i],e.source===s.contentWindow&&(s.removeAttribute(\"style\"),\"height\"===t.message?(1e3<(r=parseInt(t.value,10))?r=1e3:~~r<200&&(r=200),s.height=r):\"link\"===t.message&&(r=new URL(s.getAttribute(\"src\")),n=new URL(t.value),c.test(n.protocol))&&n.host===r.host&&l.activeElement===s&&(d.top.location.href=t.value))}},d.addEventListener(\"message\",d.wp.receiveEmbedMessage,!1),l.addEventListener(\"DOMContentLoaded\",function(){for(var e,t,s=l.querySelectorAll(\"iframe.wp-embedded-content\"),r=0;r<s.length;r++)(t=(e=s[r]).getAttribute(\"data-secret\"))||(t=Math.random().toString(36).substring(2,12),e.src+=\"#?secret=\"+t,e.setAttribute(\"data-secret\",t)),e.contentWindow.postMessage({message:\"ready\",secret:t},\"*\")},!1)))}(window,document);\n\/\/# sourceURL=https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/wp-includes\/js\/wp-embed.min.js\n<\/script>","description":"Plant a Phobol Ifanc Rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddefnyddio\u2019r Gymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau, prosiectau a gweithgareddau ymarferol a hwyliog. Hirddydd Haf Mewn cydweithrediad gyda\u2019r Adran Addysg, mae G\u0175yl Hirddydd Haf yn ddigwyddiad i ddisgyblion Blwyddyn 5 Ysgolion Cyfrwng Cymraeg y Sir. Diwrnod llawn dop o gerddoriaeth, creadigrwydd a hwyl yng Nghanolfan yr Urdd, Pentre Ifan. Yng Ng\u0175yl 2025, cafodd y plant eu diddanu gan berfformiad bywiog Mei Gwynedd a\u2019r band Dewin, yn ogystal \u00e2 bod yn rhan o\u2019r ail-recordiad o&#8217;r g\u00e2n leol \u2018Hela\u2019r Twrch Trwyth\u2019. Roedd hefyd amrywiaeth o weithdai ysbrydoledig drwy\u2019r dydd, gan greu g\u0175yl fywiog a chofiadwy sy\u2019n dathlu\u2019r Gymraeg mewn awyrgylch creadigol i ysgolion y sir. Olympiaith Mewn partneriaeth ag Adran Addysg Cyngor Sir Benfro, fe wnaethom gynnal g\u0175yl hwyliog a chystadleuol sy\u2019n dod ag ysgolion o bob rhan o\u2019r sir at ei gilydd i ddathlu\u2019r Gymraeg trwy gemau, heriau a gweithgareddau dysgu ysgafn. Bwriad Olympiaith yw meithrin cariad at y Gymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar, cefnogol ac ysbrydoledig, gan roi cyfle i blant Blwyddyn 4 y sir fwynhau\u2019r iaith mewn ffordd naturiol, gadarnhaol a llawn hwyl. Disgo Distaw Rydym hefyd yn falch o\u2019n defnydd parhaus o&#8217;n hoffer ar gyfer Disgo Distaw, sy\u2019n rhan boblogaidd iawn o\u2019n cynnig i ysgolion a grwpiau cymunedol. Rydym yn cynnal sesiynau gyda\u2019r deunydd hwn yn aml, ac mae\u2019r gweithgareddau hyn yn cynnig ffordd hwyliog a hygyrch o gyflwyno caneuon Cymraeg i blant ac oedolion ar draws y sir. Drwy gyfuno cerddoriaeth, symudiad a dysgu anffurfiol hwyliog, mae Disgos Distaw yn creu profiad bywiog sy\u2019n meithrin hyder ieithyddol ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu \u00e2\u2019r Gymraeg mewn modd cadarnhaol a naturiol. Prosiect Glas Ysgolion Cynradd A fuodd erioed enw mor gyfoethog \u00e2 glas\/gleision? Yn syml, gall gyfeirio at liw wyneb y m\u00f4r neu\u2019r awyr ar ddiwrnod clir, digwmwl. Ond beth am berci a cherrig gleision Sir Benfro? Ydyn nhw\u2019n edrych yn las i chi? Er mai\u2019r un yw\u2019r enw, mae\u2019r ystyr yn dra gwahanol. Trwy gyfrwng y prosiect hwn, daw cyfle i archwilio ehangder y gair \u2018glas\u2019, a hynny drwy ystod o weithgareddau a fydd yn si\u0175r o sbarduno creadigedd, dathlu treftadaeth, a rhoi blas ar gyfoeth yr iaith. Felly, awn ar antur las i fro lle mae\u2019r iaith yn llawn hud a\u2019r cynefin yn swyno. Bydd y prosiect Glas gan Llinos Mair, yn cefnogi gwaith Menter Iaith Sir Benfro ac yn dathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las i\u2019r fro, yn 2026. Prosiect Creu S\u0175n Mewn cydweithrediad ag ysgolion uwchradd lleol a Choleg Sir Benfro mae prosiect Creu S\u0175n, menter greadigol yn dod \u00e2 phobl ifanc ynghyd i archwilio cerddoriaeth a mynegiant creadigol drwy\u2019r Gymraeg. Dan arweiniad yr artist Mei Gwynedd, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ysbrydoledig i gyd-ysgrifennu, datblygu a pherfformio c\u00e2n wreiddiol newydd, gan feithrin hyder a sgiliau creadigol. Daw\u2019r prosiect i\u2019w benllanw ar Ddydd Miwsig Cymru gyda chystadleuaeth Brwydr y Bandiau arbennig fel rhan o Noson Goffa Ail Symudiad, gan roi llwyfan i dalent ifanc Sir Benfro ddisgleirio. Cwis Dim Clem Prosiect Cenedlaethol yw Cwis Dim Clem. Cwis rhithiol llawn gwybodaeth a llawn hwyl ar gyfer Blwyddyn 6 ysgolion Cymraeg Cymru. Mae\u2019r Fenter yn cynnal rowndiau lleol Sir Benfro gyda&#8217;r ysgol ar y brig yn mynd ymlaen i herio ysgolion eraill o fewn rhanbarth y gorllewin Mentrau Iaith Cymru. Mae &#8216;na Ffeinal Cenedlaethol yn digwydd hefyd gyda 6 ysgol ar draws Cymru yn brwydro i fod yn bencampwyr Cwis Dim Clem Cymru.","thumbnail_url":"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/HirddyddHaf.png"}