{"version":"1.0","provider_name":"Menter Iaith Sir Benfro","provider_url":"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en","title":"Dysgwyr a Siaradwyr Newydd - Menter Iaith Sir Benfro","type":"rich","width":600,"height":338,"html":"<blockquote class=\"wp-embedded-content\" data-secret=\"812SONeQwM\"><a href=\"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en\/eingwaith\/dysgwyrasiaradwyrnewydd\/\">New Learners and Speakers<\/a><\/blockquote><iframe sandbox=\"allow-scripts\" security=\"restricted\" src=\"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en\/eingwaith\/dysgwyrasiaradwyrnewydd\/embed\/#?secret=812SONeQwM\" width=\"600\" height=\"338\" title=\"&#8220;Dysgwyr a Siaradwyr Newydd&#8221; &#8212; Menter Iaith Sir Benfro\" data-secret=\"812SONeQwM\" frameborder=\"0\" marginwidth=\"0\" marginheight=\"0\" scrolling=\"no\" class=\"wp-embedded-content\"><\/iframe><script>\n\/*! This file is auto-generated *\/\n!function(d,l){\"use strict\";l.querySelector&&d.addEventListener&&\"undefined\"!=typeof URL&&(d.wp=d.wp||{},d.wp.receiveEmbedMessage||(d.wp.receiveEmbedMessage=function(e){var t=e.data;if((t||t.secret||t.message||t.value)&&!\/[^a-zA-Z0-9]\/.test(t.secret)){for(var s,r,n,a=l.querySelectorAll('iframe[data-secret=\"'+t.secret+'\"]'),o=l.querySelectorAll('blockquote[data-secret=\"'+t.secret+'\"]'),c=new RegExp(\"^https?:$\",\"i\"),i=0;i<o.length;i++)o[i].style.display=\"none\";for(i=0;i<a.length;i++)s=a[i],e.source===s.contentWindow&&(s.removeAttribute(\"style\"),\"height\"===t.message?(1e3<(r=parseInt(t.value,10))?r=1e3:~~r<200&&(r=200),s.height=r):\"link\"===t.message&&(r=new URL(s.getAttribute(\"src\")),n=new URL(t.value),c.test(n.protocol))&&n.host===r.host&&l.activeElement===s&&(d.top.location.href=t.value))}},d.addEventListener(\"message\",d.wp.receiveEmbedMessage,!1),l.addEventListener(\"DOMContentLoaded\",function(){for(var e,t,s=l.querySelectorAll(\"iframe.wp-embedded-content\"),r=0;r<s.length;r++)(t=(e=s[r]).getAttribute(\"data-secret\"))||(t=Math.random().toString(36).substring(2,12),e.src+=\"#?secret=\"+t,e.setAttribute(\"data-secret\",t)),e.contentWindow.postMessage({message:\"ready\",secret:t},\"*\")},!1)))}(window,document);\n\/\/# sourceURL=https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/wp-includes\/js\/wp-embed.min.js\n<\/script>","description":"Dysgwyr a Siaradwyr Newydd Creu cyfleoedd i ddysgwyr a siaradwyr newydd ymarfer a mwynhau\u2019r Gymraeg Rydym yn gweithio\u2019n agos gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro i sicrhau bod dysgwyr a siaradwyr newydd yn teimlo\u2019n rhan o\u2019r gymuned, waeth faint o Gymraeg sydd ganddynt. Boed eich bod yn dechrau ar eich taith neu\u2019n dymuno magu hyder i ddefnyddio mwy o Gymraeg, rydym yn creu cyfleoedd cefnogol a chyfeillgar lle gellir ymarfer yr iaith mewn awyrgylch hamddenol. Ein nod yw annog defnydd naturiol o\u2019r Gymraeg gan wneud i bawb deimlo\u2019n gyfforddus wrth ei defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Coffi a Chlonc Pob mis, rydym yn cynnal sesiynau Coffi a Chlonc mewn sawl lleoliad ar draws y sir, gan gynnwys Arberth, Llandudoch, Abergwaun a Doc Penfro ac un ar lein. Mae\u2019r sesiynau hyn wedi dod yn achlysur poblogaidd iawn, gyda llawer o bobl leol yn dod ynghyd i fwynhau paned, sgwrs a chwmni da.Mae\u2019r boreau coffi\u2019n agored i bawb, siaradwyr rhug a dysgwyr sy\u2019n dymuno defnyddio neu ddysgu mwy o\u2019r iaith mewn awyrgylch gyfeillgar a hamddenol.\u00a0 Os hoffech chi ymuno \u00e2\u2019n sesiynau i gael paned a sgwrs neu i gwrdd \u00e2 phobl newydd, cysylltwch \u00e2 ni am fwy o wybodaeth. Y Cwis Mawr Y Cwis Mawr yw un o weithgareddau cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru, lle mae timau ledled y wlad yn cystadlu mewn cwis Cymraeg hwyliog ac addysgiadol. Mae\u2019r t\u00eem buddugol yn cael y cyfle i gynrychioli\u2019r ardal yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ychwanegu at y cyffro a\u2019r ysbryd cystadleuol. Rydym yn cydweithio\u2019n agos iawn gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro i gynnal y cwis, gan sicrhau profiad cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr. G\u0175yl y Dysgwyr Digwyddiad blynyddol yw G\u0175yl y Dysgwyr a gynhelir ym Maenor Scolton ar y cyd \u00e2 Dysgu Cymraeg Sir Benfro. Mae\u2019r \u0175yl yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol, ac mae gweithgareddau\u2019r gorffennol wedi cynnwys gwersi garddio, sesiynau celf creadigol, gemau iaith, canu, cyfleoedd i gymdeithasu a seremoni wobrwyo. Mae\u2019r diwrnod bob amser yn llawn bwrlwm, gan ddod \u00e2 dysgwyr at ei gilydd i fwynhau profiad ysbrydoledig, cefnogol a chroesawgar sy\u2019n annog defnydd hyderus o\u2019r Gymraeg. G\u0175yl Fach yr Hydref Yn ogystal \u00e2\u2019r \u0174yl yn yr haf cynhelir un llai ychydig ar \u00f4l dechrau\u2019r flwyddyn ddysgu. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddysgwyr i gwrdd a chymdeithasu gyda dysgwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau tymhorol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gall gynnwys taith gerdded neu ymweliad gan siaradwr neu berfformiwr hefyd. Eto mae\u2019n weithgaredd ar y cyd \u00e2 Dysgu Cymraeg Sir Benfro ac mae\u2019r lleoliad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Cyfleoedd i Gymdeithasu Gan weithio\u2019n agos gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, mae\u2019r Fenter yn creu cyfleoedd i ddysgwyr gymdeithasu gyda dysgwyr eraill ar draws Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys dathlu\u2019r Nadolig gyda chinio neu de prynhawn, taith gerdded a swper ar ddiwedd y flwyddyn ddysgu,a thrip haf i leoedd diddorol. Byddant hefyd yn ymuno mewn digwyddiadau cymunedol ar hyd y flwyddyn wrth gwrs, a mae llawer yn gwirfoddoli mewn gweithgareddau fel y Par\u00ead G\u0175yl Ddewi.","thumbnail_url":"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/12\/CoffiaChlonc.png"}