{"version":"1.0","provider_name":"Menter Iaith Sir Benfro","provider_url":"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en","title":"Cymunedol - Menter Iaith Sir Benfro","type":"rich","width":600,"height":338,"html":"<blockquote class=\"wp-embedded-content\" data-secret=\"w2GWv6AFk4\"><a href=\"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en\/eingwaith\/cymunedol\/\">In the Community<\/a><\/blockquote><iframe sandbox=\"allow-scripts\" security=\"restricted\" src=\"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/en\/eingwaith\/cymunedol\/embed\/#?secret=w2GWv6AFk4\" width=\"600\" height=\"338\" title=\"&#8220;Cymunedol&#8221; &#8212; Menter Iaith Sir Benfro\" data-secret=\"w2GWv6AFk4\" frameborder=\"0\" marginwidth=\"0\" marginheight=\"0\" scrolling=\"no\" class=\"wp-embedded-content\"><\/iframe><script>\n\/*! This file is auto-generated *\/\n!function(d,l){\"use strict\";l.querySelector&&d.addEventListener&&\"undefined\"!=typeof URL&&(d.wp=d.wp||{},d.wp.receiveEmbedMessage||(d.wp.receiveEmbedMessage=function(e){var t=e.data;if((t||t.secret||t.message||t.value)&&!\/[^a-zA-Z0-9]\/.test(t.secret)){for(var s,r,n,a=l.querySelectorAll('iframe[data-secret=\"'+t.secret+'\"]'),o=l.querySelectorAll('blockquote[data-secret=\"'+t.secret+'\"]'),c=new RegExp(\"^https?:$\",\"i\"),i=0;i<o.length;i++)o[i].style.display=\"none\";for(i=0;i<a.length;i++)s=a[i],e.source===s.contentWindow&&(s.removeAttribute(\"style\"),\"height\"===t.message?(1e3<(r=parseInt(t.value,10))?r=1e3:~~r<200&&(r=200),s.height=r):\"link\"===t.message&&(r=new URL(s.getAttribute(\"src\")),n=new URL(t.value),c.test(n.protocol))&&n.host===r.host&&l.activeElement===s&&(d.top.location.href=t.value))}},d.addEventListener(\"message\",d.wp.receiveEmbedMessage,!1),l.addEventListener(\"DOMContentLoaded\",function(){for(var e,t,s=l.querySelectorAll(\"iframe.wp-embedded-content\"),r=0;r<s.length;r++)(t=(e=s[r]).getAttribute(\"data-secret\"))||(t=Math.random().toString(36).substring(2,12),e.src+=\"#?secret=\"+t,e.setAttribute(\"data-secret\",t)),e.contentWindow.postMessage({message:\"ready\",secret:t},\"*\")},!1)))}(window,document);\n\/\/# sourceURL=https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/wp-includes\/js\/wp-embed.min.js\n<\/script>","description":"Cymunedol Creu gofod i ddefnyddio\u2019r Gymraeg o fewn y gymuned Mae ein gwaith cymunedol yn canolbwyntio ar ddod \u00e2 phobl at ei gilydd drwy\u2019r Gymraeg, gan greu cyfleoedd naturiol i gymdeithasu, rhannu profiadau a mwynhau diwylliant lleol. Trwy weithgareddau amrywiol ledled Sir Benfro, rydym yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn a chefnogi defnydd y Gymraeg fel rhan fyw o fywyd bob dydd y gymuned. Nosweithiau Cymdeithasol Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol i ddod \u00e2 phobl ynghyd drwy\u2019r Gymraeg. Mae ein gweithgareddau\u2019n cynnwys nosweithiau hamddenol yng nghwmni pobl adnabyddus o fyd diwylliant a cherddoriaeth, gan greu cyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau mewn awyrgylch groesawgar. Yn aml, rydym yn cydweithio \u00e2 Gwerin Fel \u2018Na Mai, gr\u0175p poblogaidd ac adnabyddus yn yr ardal, i gyflwyno digwyddiadau sy\u2019n dathlu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Trwy\u2019r gweithgareddau hyn, rydym yn cryfhau\u2019r ymdeimlad o gymuned ac yn annog defnydd naturiol o\u2019r Gymraeg. Teithiau Cerdded Mae\u2019r Daith Gerdded 4C yn ffordd hyfryd o ddod ynghyd i fwynhau coffi, cerdded, cymdeithasu a chinio! Mae\u2019r teithiau wedi bod yn rhedeg ers tua 9 mlynedd ac yn cael eu cynnal yn gyson gyda lleoliad newydd bob to, gan gynnig cyfle i weld prydferthwch Sir Benfro. Mae\u2019r teithiau\u2019n addas i bawb ac yn ffordd berffaith o dreulio amser yn yr awyr agored. Roedd Waldo Williams yn un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru ac yn frodor o\u2019r ardal hon. Trwy ei farddoniaeth, mynegodd syniadau dwfn am heddwch a chymuned, gan adael etifeddiaeth barhaol i Gymru gyfan. Mae W\u00e2c Waldo yn gyfle blynyddol i gofio\u2019r bardd, i fyfyrio ar ei waith, ac i ddathlu ei gyfraniad arbennig i\u2019r Gymraeg a diwylliant y fro. Gerddi Gleision Mae Menter Iaith Sir Benfro wedi bod yn cynnal sesiynau \u2018Gerddi Gleision\u2019 fel rhan o\u2019r paratoadau i groesawi Eisteddfod y Garreg Las 2026 i\u2019r ardal. Daw\u2019r prosiect hwn o dan ymbar\u00e9l prosiect Glas a gr\u00ebwyd gan Llinos Mair, ac gyda chymorth Adam yn yr Ardd. Fel rhan o\u2019r prosiect rydym wedi bod yn plannu bylbiau Cennin Pedr ar draws y sir; symbol o groeso a chydweithio wrth edrych ymlaen at yr \u0175yl. Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y Cennin Pedr yn blodeuo yn y gwanwyn, ac yna\u2019u hailblannu\u2019n gynnar yn yr haf y flwyddyn nesaf i barhau i greu tirwedd liwgar a chroesawgar ledled y sir. Ras Hwyl Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal Ras Hwyl Carnabwth, yr un cyntaf ers rhai blynyddoedd. Roedd yn gyfle gwych i ddod \u00e2\u2019r gymuned ynghyd, lle\u2019r oedd unigolion o bob oed a gallu yn medru dod at ei gilydd i fwynhau noswaith o gadw\u2019n heini, cael hwyl a chymdeithasu. Yn ogystal \u00e2\u2019r ras hwyl, roedd adloniant gan Gwerin Fel Na Mai a Dafydd Pantrod a\u2019i Fand, gan greu awyrgylch gynnes a bywiog ar ddiwrnod glawiog. Aeth holl elw\u2019r digwyddiad tuag at gefnogi Eisteddfod y Garreg Las 2026.\u00a0I gadw i fyny \u00e2\u2019n rasys hwyl a\u2019n digwyddiadau yn y dyfodol, dilynwch ein tudalen Facebook Rasus Hwyl \/ Fun Runs Menter Iaith Sir Benfro\u00a0https:\/\/www.facebook.com\/Rasushwylsirbenfro\/ Cwis Wes Glei Mae Cwis Wes Glei yn un o weithgareddau mwyaf poblogaidd y Fenter, ac wedi bod yn rhedeg ers dros 25 mlynedd! Dechreuodd y cwis ym 1999, ac mae\u2019r plac cyntaf ar y darian yn dal i gofio\u2019r flwyddyn honno\u2019n falch. Bob blwyddyn mae\u2019r cwis yn teithio o amgylch dalgylch bro\u2019r Preseli, gyda chwisfeistr newydd yn dod \u00e2\u2019i steil a\u2019i hiwmor ei hun.\u00a0Mae\u2019r noson yn gyfuniad perffaith o wybodaeth, chwerthin ac agosatrwydd cymunedol, sy\u2019n gyfle gwych i bobl leol ddod ynghyd i fwynhau cystadleuaeth gyfeillgar ac i gadw\u2019r traddodiad arbennig hwn yn fyw. Cyngerdd yr Adfent Ers dros ddegawd, mae\u2019r Fenter wedi cynnal Cyngerdd yr Adfent, sy\u2019n denu cynulleidfaoedd o bob cwr o\u2019r sir a thu hwnt gan gynnig profiad cerddorol o\u2019r radd flaenaf gydag artistiaid adnabyddus. Mae\u2019r digwyddiad blynyddol hwn yn cael ei drefnu mewn cydweithrediad \u00e2 Chelfyddydau SPAN, gan gryfhau\u2019r cysylltiadau rhwng sefydliadau lleol a chynnig cyfleoedd creadigol i bawb. Par\u00ead Dydd G\u0175yl Dewi Mae Par\u00ead Dydd G\u0175yl Dewi yn ddigwyddiad blynyddol lliwgar sy\u2019n cael ei drefnu gan y Fforwm Iaith, sydd wedi bod yn gweithio\u2019n ddiwyd ers tua deng mlynedd i hyrwyddo\u2019r Gymraeg a dathlu diwylliant Cymru. Cynhelir y par\u00ead yn Hwlffordd bob blwyddyn, gan ddod \u00e2 chymunedau o bob cwr o\u2019r sir at ei gilydd i ddathlu Dydd G\u0175yl Dewi gyda cherddoriaeth, baneri, dawnsio a llawer o hwyl. Yn ogystal \u00e2\u2019r par\u00ead ei hun, cynhelir cystadleuaeth addurno ffenestri, sy\u2019n annog busnesau a thrigolion lleol i gymryd rhan a chyfrannu at awyrgylch dathliadol y dref. Mae\u2019n ddigwyddiad sy\u2019n uno pobl o bob oed ac yn arddangos balchder Sir Benfro yn ei hiaith a\u2019i hunaniaeth Gymreig.","thumbnail_url":"https:\/\/mentersirbenfro.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Gwilym-Bowen-Rhys-llun-teitl.png"}