<?xml version="1.0"?>
<oembed><version>1.0</version><provider_name>Menter Iaith Sir Benfro</provider_name><provider_url>https://mentersirbenfro.cymru/en</provider_url><title>Dysgwyr a Siaradwyr Newydd - Menter Iaith Sir Benfro</title><type>rich</type><width>600</width><height>338</height><html>&lt;blockquote class="wp-embedded-content" data-secret="1oJo07lcVP"&gt;&lt;a href="https://mentersirbenfro.cymru/en/eingwaith/dysgwyrasiaradwyrnewydd/"&gt;New Learners and Speakers&lt;/a&gt;&lt;/blockquote&gt;&lt;iframe sandbox="allow-scripts" security="restricted" src="https://mentersirbenfro.cymru/en/eingwaith/dysgwyrasiaradwyrnewydd/embed/#?secret=1oJo07lcVP" width="600" height="338" title="&#x201C;Dysgwyr a Siaradwyr Newydd&#x201D; &#x2014; Menter Iaith Sir Benfro" data-secret="1oJo07lcVP" frameborder="0" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" class="wp-embedded-content"&gt;&lt;/iframe&gt;&lt;script&gt;
/*! This file is auto-generated */
!function(d,l){"use strict";l.querySelector&amp;&amp;d.addEventListener&amp;&amp;"undefined"!=typeof URL&amp;&amp;(d.wp=d.wp||{},d.wp.receiveEmbedMessage||(d.wp.receiveEmbedMessage=function(e){var t=e.data;if((t||t.secret||t.message||t.value)&amp;&amp;!/[^a-zA-Z0-9]/.test(t.secret)){for(var s,r,n,a=l.querySelectorAll('iframe[data-secret="'+t.secret+'"]'),o=l.querySelectorAll('blockquote[data-secret="'+t.secret+'"]'),c=new RegExp("^https?:$","i"),i=0;i&lt;o.length;i++)o[i].style.display="none";for(i=0;i&lt;a.length;i++)s=a[i],e.source===s.contentWindow&amp;&amp;(s.removeAttribute("style"),"height"===t.message?(1e3&lt;(r=parseInt(t.value,10))?r=1e3:~~r&lt;200&amp;&amp;(r=200),s.height=r):"link"===t.message&amp;&amp;(r=new URL(s.getAttribute("src")),n=new URL(t.value),c.test(n.protocol))&amp;&amp;n.host===r.host&amp;&amp;l.activeElement===s&amp;&amp;(d.top.location.href=t.value))}},d.addEventListener("message",d.wp.receiveEmbedMessage,!1),l.addEventListener("DOMContentLoaded",function(){for(var e,t,s=l.querySelectorAll("iframe.wp-embedded-content"),r=0;r&lt;s.length;r++)(t=(e=s[r]).getAttribute("data-secret"))||(t=Math.random().toString(36).substring(2,12),e.src+="#?secret="+t,e.setAttribute("data-secret",t)),e.contentWindow.postMessage({message:"ready",secret:t},"*")},!1)))}(window,document);
//# sourceURL=https://mentersirbenfro.cymru/wp-includes/js/wp-embed.min.js
&lt;/script&gt;</html><description>Dysgwyr a Siaradwyr Newydd Creu cyfleoedd i ddysgwyr a siaradwyr newydd ymarfer a mwynhau&#x2019;r Gymraeg Rydym yn gweithio&#x2019;n agos gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro i sicrhau bod dysgwyr a siaradwyr newydd yn teimlo&#x2019;n rhan o&#x2019;r gymuned, waeth faint o Gymraeg sydd ganddynt. Boed eich bod yn dechrau ar eich taith neu&#x2019;n dymuno magu hyder i ddefnyddio mwy o Gymraeg, rydym yn creu cyfleoedd cefnogol a chyfeillgar lle gellir ymarfer yr iaith mewn awyrgylch hamddenol. Ein nod yw annog defnydd naturiol o&#x2019;r Gymraeg gan wneud i bawb deimlo&#x2019;n gyfforddus wrth ei defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Coffi a Chlonc Pob mis, rydym yn cynnal sesiynau Coffi a Chlonc mewn sawl lleoliad ar draws y sir, gan gynnwys Arberth, Llandudoch, Abergwaun a Doc Penfro ac un ar lein. Mae&#x2019;r sesiynau hyn wedi dod yn achlysur poblogaidd iawn, gyda llawer o bobl leol yn dod ynghyd i fwynhau paned, sgwrs a chwmni da.Mae&#x2019;r boreau coffi&#x2019;n agored i bawb, siaradwyr rhug a dysgwyr sy&#x2019;n dymuno defnyddio neu ddysgu mwy o&#x2019;r iaith mewn awyrgylch gyfeillgar a hamddenol.&#xA0; Os hoffech chi ymuno &#xE2;&#x2019;n sesiynau i gael paned a sgwrs neu i gwrdd &#xE2; phobl newydd, cysylltwch &#xE2; ni am fwy o wybodaeth. Y Cwis Mawr Y Cwis Mawr yw un o weithgareddau cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru, lle mae timau ledled y wlad yn cystadlu mewn cwis Cymraeg hwyliog ac addysgiadol. Mae&#x2019;r t&#xEE;m buddugol yn cael y cyfle i gynrychioli&#x2019;r ardal yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ychwanegu at y cyffro a&#x2019;r ysbryd cystadleuol. Rydym yn cydweithio&#x2019;n agos iawn gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro i gynnal y cwis, gan sicrhau profiad cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr. G&#x175;yl y Dysgwyr Digwyddiad blynyddol yw G&#x175;yl y Dysgwyr a gynhelir ym Maenor Scolton ar y cyd &#xE2; Dysgu Cymraeg Sir Benfro. Mae&#x2019;r &#x175;yl yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol, ac mae gweithgareddau&#x2019;r gorffennol wedi cynnwys gwersi garddio, sesiynau celf creadigol, gemau iaith, canu, cyfleoedd i gymdeithasu a seremoni wobrwyo. Mae&#x2019;r diwrnod bob amser yn llawn bwrlwm, gan ddod &#xE2; dysgwyr at ei gilydd i fwynhau profiad ysbrydoledig, cefnogol a chroesawgar sy&#x2019;n annog defnydd hyderus o&#x2019;r Gymraeg. G&#x175;yl Fach yr Hydref Yn ogystal &#xE2;&#x2019;r &#x174;yl yn yr haf cynhelir un llai ychydig ar &#xF4;l dechrau&#x2019;r flwyddyn ddysgu. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddysgwyr i gwrdd a chymdeithasu gyda dysgwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau tymhorol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gall gynnwys taith gerdded neu ymweliad gan siaradwr neu berfformiwr hefyd. Eto mae&#x2019;n weithgaredd ar y cyd &#xE2; Dysgu Cymraeg Sir Benfro ac mae&#x2019;r lleoliad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Cyfleoedd i Gymdeithasu Gan weithio&#x2019;n agos gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, mae&#x2019;r Fenter yn creu cyfleoedd i ddysgwyr gymdeithasu gyda dysgwyr eraill ar draws Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys dathlu&#x2019;r Nadolig gyda chinio neu de prynhawn, taith gerdded a swper ar ddiwedd y flwyddyn ddysgu,a thrip haf i leoedd diddorol. Byddant hefyd yn ymuno mewn digwyddiadau cymunedol ar hyd y flwyddyn wrth gwrs, a mae llawer yn gwirfoddoli mewn gweithgareddau fel y Par&#xEA;d G&#x175;yl Ddewi.</description><thumbnail_url>https://mentersirbenfro.cymru/wp-content/uploads/2025/12/CoffiaChlonc.png</thumbnail_url></oembed>
