<?xml version="1.0"?>
<oembed><version>1.0</version><provider_name>Menter Iaith Sir Benfro</provider_name><provider_url>https://mentersirbenfro.cymru/en</provider_url><title>Cymunedol - Menter Iaith Sir Benfro</title><type>rich</type><width>600</width><height>338</height><html>&lt;blockquote class="wp-embedded-content" data-secret="aVbFToC3c9"&gt;&lt;a href="https://mentersirbenfro.cymru/en/eingwaith/cymunedol/"&gt;In the Community&lt;/a&gt;&lt;/blockquote&gt;&lt;iframe sandbox="allow-scripts" security="restricted" src="https://mentersirbenfro.cymru/en/eingwaith/cymunedol/embed/#?secret=aVbFToC3c9" width="600" height="338" title="&#x201C;Cymunedol&#x201D; &#x2014; Menter Iaith Sir Benfro" data-secret="aVbFToC3c9" frameborder="0" marginwidth="0" marginheight="0" scrolling="no" class="wp-embedded-content"&gt;&lt;/iframe&gt;&lt;script&gt;
/*! This file is auto-generated */
!function(d,l){"use strict";l.querySelector&amp;&amp;d.addEventListener&amp;&amp;"undefined"!=typeof URL&amp;&amp;(d.wp=d.wp||{},d.wp.receiveEmbedMessage||(d.wp.receiveEmbedMessage=function(e){var t=e.data;if((t||t.secret||t.message||t.value)&amp;&amp;!/[^a-zA-Z0-9]/.test(t.secret)){for(var s,r,n,a=l.querySelectorAll('iframe[data-secret="'+t.secret+'"]'),o=l.querySelectorAll('blockquote[data-secret="'+t.secret+'"]'),c=new RegExp("^https?:$","i"),i=0;i&lt;o.length;i++)o[i].style.display="none";for(i=0;i&lt;a.length;i++)s=a[i],e.source===s.contentWindow&amp;&amp;(s.removeAttribute("style"),"height"===t.message?(1e3&lt;(r=parseInt(t.value,10))?r=1e3:~~r&lt;200&amp;&amp;(r=200),s.height=r):"link"===t.message&amp;&amp;(r=new URL(s.getAttribute("src")),n=new URL(t.value),c.test(n.protocol))&amp;&amp;n.host===r.host&amp;&amp;l.activeElement===s&amp;&amp;(d.top.location.href=t.value))}},d.addEventListener("message",d.wp.receiveEmbedMessage,!1),l.addEventListener("DOMContentLoaded",function(){for(var e,t,s=l.querySelectorAll("iframe.wp-embedded-content"),r=0;r&lt;s.length;r++)(t=(e=s[r]).getAttribute("data-secret"))||(t=Math.random().toString(36).substring(2,12),e.src+="#?secret="+t,e.setAttribute("data-secret",t)),e.contentWindow.postMessage({message:"ready",secret:t},"*")},!1)))}(window,document);
//# sourceURL=https://mentersirbenfro.cymru/wp-includes/js/wp-embed.min.js
&lt;/script&gt;</html><description>Cymunedol Creu gofod i ddefnyddio&#x2019;r Gymraeg o fewn y gymuned Mae ein gwaith cymunedol yn canolbwyntio ar ddod &#xE2; phobl at ei gilydd drwy&#x2019;r Gymraeg, gan greu cyfleoedd naturiol i gymdeithasu, rhannu profiadau a mwynhau diwylliant lleol. Trwy weithgareddau amrywiol ledled Sir Benfro, rydym yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn a chefnogi defnydd y Gymraeg fel rhan fyw o fywyd bob dydd y gymuned. Nosweithiau Cymdeithasol Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol i ddod &#xE2; phobl ynghyd drwy&#x2019;r Gymraeg. Mae ein gweithgareddau&#x2019;n cynnwys nosweithiau hamddenol yng nghwmni pobl adnabyddus o fyd diwylliant a cherddoriaeth, gan greu cyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau mewn awyrgylch groesawgar. Yn aml, rydym yn cydweithio &#xE2; Gwerin Fel &#x2018;Na Mai, gr&#x175;p poblogaidd ac adnabyddus yn yr ardal, i gyflwyno digwyddiadau sy&#x2019;n dathlu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Trwy&#x2019;r gweithgareddau hyn, rydym yn cryfhau&#x2019;r ymdeimlad o gymuned ac yn annog defnydd naturiol o&#x2019;r Gymraeg. Teithiau Cerdded Mae&#x2019;r Daith Gerdded 4C yn ffordd hyfryd o ddod ynghyd i fwynhau coffi, cerdded, cymdeithasu a chinio! Mae&#x2019;r teithiau wedi bod yn rhedeg ers tua 9 mlynedd ac yn cael eu cynnal yn gyson gyda lleoliad newydd bob to, gan gynnig cyfle i weld prydferthwch Sir Benfro. Mae&#x2019;r teithiau&#x2019;n addas i bawb ac yn ffordd berffaith o dreulio amser yn yr awyr agored. Roedd Waldo Williams yn un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru ac yn frodor o&#x2019;r ardal hon. Trwy ei farddoniaeth, mynegodd syniadau dwfn am heddwch a chymuned, gan adael etifeddiaeth barhaol i Gymru gyfan. Mae W&#xE2;c Waldo yn gyfle blynyddol i gofio&#x2019;r bardd, i fyfyrio ar ei waith, ac i ddathlu ei gyfraniad arbennig i&#x2019;r Gymraeg a diwylliant y fro. Gerddi Gleision Mae Menter Iaith Sir Benfro wedi bod yn cynnal sesiynau &#x2018;Gerddi Gleision&#x2019; fel rhan o&#x2019;r paratoadau i groesawi Eisteddfod y Garreg Las 2026 i&#x2019;r ardal. Daw&#x2019;r prosiect hwn o dan ymbar&#xE9;l prosiect Glas a gr&#xEB;wyd gan Llinos Mair, ac gyda chymorth Adam yn yr Ardd. Fel rhan o&#x2019;r prosiect rydym wedi bod yn plannu bylbiau Cennin Pedr ar draws y sir; symbol o groeso a chydweithio wrth edrych ymlaen at yr &#x175;yl. Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y Cennin Pedr yn blodeuo yn y gwanwyn, ac yna&#x2019;u hailblannu&#x2019;n gynnar yn yr haf y flwyddyn nesaf i barhau i greu tirwedd liwgar a chroesawgar ledled y sir. Ras Hwyl Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal Ras Hwyl Carnabwth, yr un cyntaf ers rhai blynyddoedd. Roedd yn gyfle gwych i ddod &#xE2;&#x2019;r gymuned ynghyd, lle&#x2019;r oedd unigolion o bob oed a gallu yn medru dod at ei gilydd i fwynhau noswaith o gadw&#x2019;n heini, cael hwyl a chymdeithasu. Yn ogystal &#xE2;&#x2019;r ras hwyl, roedd adloniant gan Gwerin Fel Na Mai a Dafydd Pantrod a&#x2019;i Fand, gan greu awyrgylch gynnes a bywiog ar ddiwrnod glawiog. Aeth holl elw&#x2019;r digwyddiad tuag at gefnogi Eisteddfod y Garreg Las 2026.&#xA0;I gadw i fyny &#xE2;&#x2019;n rasys hwyl a&#x2019;n digwyddiadau yn y dyfodol, dilynwch ein tudalen Facebook Rasus Hwyl / Fun Runs Menter Iaith Sir Benfro&#xA0;https://www.facebook.com/Rasushwylsirbenfro/ Cwis Wes Glei Mae Cwis Wes Glei yn un o weithgareddau mwyaf poblogaidd y Fenter, ac wedi bod yn rhedeg ers dros 25 mlynedd! Dechreuodd y cwis ym 1999, ac mae&#x2019;r plac cyntaf ar y darian yn dal i gofio&#x2019;r flwyddyn honno&#x2019;n falch. Bob blwyddyn mae&#x2019;r cwis yn teithio o amgylch dalgylch bro&#x2019;r Preseli, gyda chwisfeistr newydd yn dod &#xE2;&#x2019;i steil a&#x2019;i hiwmor ei hun.&#xA0;Mae&#x2019;r noson yn gyfuniad perffaith o wybodaeth, chwerthin ac agosatrwydd cymunedol, sy&#x2019;n gyfle gwych i bobl leol ddod ynghyd i fwynhau cystadleuaeth gyfeillgar ac i gadw&#x2019;r traddodiad arbennig hwn yn fyw. Cyngerdd yr Adfent Ers dros ddegawd, mae&#x2019;r Fenter wedi cynnal Cyngerdd yr Adfent, sy&#x2019;n denu cynulleidfaoedd o bob cwr o&#x2019;r sir a thu hwnt gan gynnig profiad cerddorol o&#x2019;r radd flaenaf gydag artistiaid adnabyddus. Mae&#x2019;r digwyddiad blynyddol hwn yn cael ei drefnu mewn cydweithrediad &#xE2; Chelfyddydau SPAN, gan gryfhau&#x2019;r cysylltiadau rhwng sefydliadau lleol a chynnig cyfleoedd creadigol i bawb. Par&#xEA;d Dydd G&#x175;yl Dewi Mae Par&#xEA;d Dydd G&#x175;yl Dewi yn ddigwyddiad blynyddol lliwgar sy&#x2019;n cael ei drefnu gan y Fforwm Iaith, sydd wedi bod yn gweithio&#x2019;n ddiwyd ers tua deng mlynedd i hyrwyddo&#x2019;r Gymraeg a dathlu diwylliant Cymru. Cynhelir y par&#xEA;d yn Hwlffordd bob blwyddyn, gan ddod &#xE2; chymunedau o bob cwr o&#x2019;r sir at ei gilydd i ddathlu Dydd G&#x175;yl Dewi gyda cherddoriaeth, baneri, dawnsio a llawer o hwyl. Yn ogystal &#xE2;&#x2019;r par&#xEA;d ei hun, cynhelir cystadleuaeth addurno ffenestri, sy&#x2019;n annog busnesau a thrigolion lleol i gymryd rhan a chyfrannu at awyrgylch dathliadol y dref. Mae&#x2019;n ddigwyddiad sy&#x2019;n uno pobl o bob oed ac yn arddangos balchder Sir Benfro yn ei hiaith a&#x2019;i hunaniaeth Gymreig.</description><thumbnail_url>https://mentersirbenfro.cymru/wp-content/uploads/2026/01/Gwilym-Bowen-Rhys-llun-teitl.png</thumbnail_url></oembed>
